Cofnodion Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol PCS y Senedd a gynhaliwyd ar Zoom ar 24 Mehefin 2021

 

Yn bresennol:  Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-gadeirydd); Hefin David AS; John Griffiths AS; Carolyn Thomas AS; Ryland Doyle (Staff Cymorth AS, Mike Hedges); Lewis Owen (Staff Cymorth MS, Rhys ab Owen); Helen West (Staff Cymorth AS, Julie Morgan); Siân Boyles (PCS); Jimmy Gill (PCS); Jayne Smith (PCS); Siân Wiblin (PCS); Darren Williams (PCS).

 

 

1. Croeso ac ymddiheuriadau

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen, Jane Dodds, Llyr Gruffydd a Rhianon Passmore. Eglurodd Hefin David bod yn rhaid iddo adael yn gynnar ar gyfer apwyntiad meddygol.

 

 

2. Cyflwyniad i PCS a'r Grŵp Trawsbleidiol

 

Rhoddodd PCS drosolwg byr o waith yr undeb yn y gwasanaeth sifil a meysydd cysylltiedig a gweithrediad y Grŵp Trawsbleidiol ers ei sefydlu yn 2005.

 

 

3. Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd:

 

Etholwyd Mike Hedges yn Gadeirydd a Heledd Fychan yn Is-gadeirydd.

 

 

4. Materion Diogelwch Covid-19 yn y Gweithle:

 

(a) Anghydfod DVLA

 

Rhoddodd PCS ddiweddariad ar anghydfod diwydiannol yr undeb gyda’r DVLA ynghylch diogelwch Covid yn y gweithle a oedd wedi cychwyn ym mis Chwefror. Bu mwy na 620 o achosion Covid positif ymhlith staff y DVLA. O’r 6,200 aelod o staff, mae mwy na 3,000 yn gweithio ar y safle ac mae’r DVLA ar hyn o bryd yn y broses o ddychwelyd bron i 500 o staff i’r safle, proses y maent am ei chwblhau ym mis Gorffennaf. Roedd gan PCS bryderon difrifol am gyflymder dychwelyd i’r gweithle a nifer y staff dan sylw a’r ffaith bod y rhain yn cynnwys staff sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed ac yn hynod agored i niwed yn glinigol, yn ogystal â staff sydd wedi bod yn gweithio gartref yn llwyddiannus drwy gydol y pandemig.

 

Roedd PCS wedi bod yn agos at gytundeb gyda'r DVLA a'r adran sy’n gyfrifol amdano, yr Adran Drafnidiaeth, a oedd yn cynnwys system fwy graddol a phwyllog i ddychwelyd staff i'r gweithle, gyda phwyntiau adolygu ar gyfraddau trosglwyddo. Cafodd y fargen ei thynnu oddi ar y bwrdd ar yr unfed awr ar ddeg ar 1 Mehefin, mae'n debyg o ganlyniad i ymyrraeth weinidogol. Mae'n debyg mai elfen ddadleuol y fargen oedd cynnig i wneud taliadau i staff fel cydnabyddiaeth a gwobr am eu gwaith trwy gydol y pandemig; byddai hyn wedi costio tua £1.2 miliwn, ac eto roedd y DVLA wedi datgelu mai £4.2 miliwn oedd gwerth eu cronfa wobrwyo flynyddol ar gyfer staff gweithredol.

 

Gofynnodd yr undeb am gefnogaeth yn y meysydd canlynol:

 

·         ASau i ofyn i Swyddfa’r Prif Weinidog gyflwyno sylwadau i Grant Shapps i gael y cytundeb yn ôl ar y bwrdd a setlo’r anghydfod hwn.

·         ASau i gael y DVLA i oedi eu cynlluniau presennol i ddychwelyd 300 yn fwy o staff i safle’r DVLA dros yr ychydig wythnosau nesaf. Mae PCS wedi mynnu'n ffurfiol bod 'Cam 3' yn cael ei oedi, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, hyd yn hyn maent wedi anwybyddu pryderon PCS, gan ddod â 116 o staff pellach yn ôl i'r safle ddydd Mawrth yma, gyda 152 arall yn yr arfaeth yr wythnos nesaf.

·         Negeseuon o gefnogaeth i'n streic, wedi'u trydar i @DvlaYes a @pcs_DVLA

 

Roedd aelodau'r grŵp yn cwestiynu'r ffactorau sy'n sail i anhyblygrwydd rheolwyr a chynigion nhw eu cefnogaeth barhaus i weithred yr undeb. Awgrymodd Mike Hedges y dylai PCS gynyddu ei ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

 

(b) Pryderon diogelwch gweithle DWP

 

Nododd PCS bryderon yr undeb ynghylch y sefyllfa bresennol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau lle’r oedd yr Adran, ers mis Ebrill, wedi bod yn gofyn i lawer mwy o staff ddychwelyd i ganolfannau gwaith i gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, er gwaethaf tystiolaeth bod staff wedi darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid o bell drwy gydol y pandemig a bod 50% o hawlwyr ar hyn o bryd yn methu â mynychu apwyntiadau wyneb yn wyneb, mae'r Adran yn parhau i fynnu mai wyneb yn wyneb sydd orau. Roedd uwch swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau’n ddiweddar fod apwyntiadau wyneb yn wyneb yn orfodol fel rhan o drefn amodoldeb budd-daliadau, oherwydd cyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU. Roedd yr undeb wedi cynnal pleidlais ymgynghorol o'r holl aelodau yr effeithiwyd arnynt i weld a fyddent yn fodlon cymryd streic i amddiffyn eu diogelwch. Daeth y bleidlais i ben ar 2 Mehefin ac roedd 74% o’r rhai a ymatebodd wedi pleidleisio i gefnogi’r gweithredu arfaethedig.

 

Mynegodd aelodau'r grŵp eu pryder am les y staff yr effeithir arnynt a'r defnyddwyr gwasanaeth ac roeddent yn barod i godi'r mater wrth i ymgyrch yr undeb ddatblygu.

 

 

Prosiect adleoli yr Adran Gwaith a Phensiynau De Cymru

 

Adroddodd PCS fod yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adleoli 1,800 o staff o chwe swyddfa bresennol, yn bennaf yng Nghymoedd De Cymru, i ganolfan bwrpasol newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, yn wyneb pryderon undebau ynghylch colli swyddi yn y cymunedau presennol; anallu cannoedd o staff i drosglwyddo oherwydd problemau symudedd, cyfrifoldebau gofalu, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus annigonol a diffyg lleoedd parcio ar y safle newydd; a’r ffaith bod y swyddfa newydd wedi’i lleoli mewn parth risg llifogydd, a gafodd ei effeithio’n wael gan stormydd ar ddechrau 2020. Er gwaethaf y pandemig, roedd staff o Ferthyr Tudful i fod i drosglwyddo i’r safle ym mis Gorffennaf a staff o Gabalfa yng Nghaerdydd ym mis Medi, gyda gweddill y symudiadau i ddigwydd yn 2022 a 2023. Roedd PCS wedi cynnal sawl cyfarfod gydag ASau a oedd yn cynrychioli’r etholaethau yr effeithiwyd arnynt, yn fwyaf diweddar ym mis Mawrth, ac roedd rhai ohonynt wedi ysgrifennu at weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau ond ni chawsant ymateb boddhaol.

 

Adroddodd Heledd Fychan fod trigolion lleol hefyd wedi cysylltu â hi i gyfleu eu pryderon am y safle, yn enwedig mewn perthynas â pherygl llifogydd. Awgrymodd y byddai'n werth cysylltu ag ASau lleol eto, gan fod rhai newidiadau wedi bod yn dilyn etholiadau mis Mai.

 

 

5. Materion Cyflog

 

(a) Strategaeth Tâl Gyffredinol y PCS

 

Ym mis Mawrth, roedd PCS wedi cyflwyno hawliad cyflog ar gyfer 2021/22 ar gyfer holl wasanaeth sifil y DU i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove. Roedd hwn yn ceisio herio’r rhewi cyflogau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys ar gyfer 2021 a mynd i’r afael ag effaith degawd o rewi cyflogau a chapiau cyflog, a oedd wedi gweld safonau byw yn gostwng tua 20% mewn termau real. Roedd yr undeb yn ceisio dyfarniad cyflog o 10%, yn ogystal â gwelliannau mewn gwyliau blynyddol ac ym mhwysiad Llundain a lleihad o ran yr wythnos waith. Roedd hefyd wedi ailadrodd amcan hirsefydlog PCS o sicrhau dychweliad i fargeinio cenedlaethol ar gyflog a thelerau ac amodau, yn cwmpasu holl weithwyr y gwasanaeth sifil a’i feysydd cysylltiedig, gan ddod â’r system fargeinio ddirprwyedig i ben, a oedd wedi arwain at wahaniaethau enfawr mewn cyflog rhwng gweithwyr sy'n gwneud swyddi tebyg.  Roedd yr undeb wedi galw ar weinidogion y DU i gymryd rhan mewn trafodaethau uniongyrchol ac roedd hefyd wedi cyflwyno hawliadau cyflog sectorol i Brif Swyddog Gweithredu pob adran o’r wladwriaeth, yn cwmpasu’r adran graidd a phob un o’r asiantaethau gweithredol neu gyrff hyd braich tebyg y mae’r adrannau hyn yn gyfrifol amdanynt yn y pen draw. Hyd yn hyn, ni chafwyd ymateb cadarnhaol gan lywodraeth ganolog y DU nac adrannau unigol.

 

 

(b) Cyflogau Sector Datganoledig Cymru

 

Cydnabu PCS nad oedd Llywodraeth Cymru erioed wedi cymeradwyo’r cyni o ran polisi tâl a gymhwyswyd gan weinidogion San Steffan a’i bod wedi ceisio, lle’r oedd hynny’n bosibl, cyflwyno dyfarniadau cyflog ychydig yn fwy hael ond roedd dibyniaeth Cymru ar gyllid llywodraeth y DU wedi golygu bod gweision sifil a chyhoeddus yn y sector datganoledig yng Nghymru hefyd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau cyflog y Trysorlys. Fodd bynnag, roedd gweinidogion Cymru wedi bod yn fwy agored na’u cymheiriaid yn San Steffan i ddyhead PCS i sicrhau mwy o gydlyniad cyflog, a gwnaed cynnydd sylweddol yn y maes hwn yn ystod 2019, gydag undebau’n ymuno â chynrychiolwyr cyflogwyr ac uwch swyddogion i gyfrannu at dair ffrwd waith, gan ymdrin gyda thâl; amodau cysylltiedig eraill; a phensiynau. Roedd pandemig Covid-19 wedi torri ar draws y gwaith hwn ond roedd PCS yn awyddus i'w gael yn ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosibl. Roedd yr undeb wedi cymryd yr awenau yn hyn o beth drwy ysgrifennu at Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, ar 22 Chwefror gyda chais am dâl ar gyfer 2021/22, yn cwmpasu Llywodraeth Cymru ei hun a nifer o is-gyrff cyflogi, gan geisio – fel gyda’n hawliadau sectorol ar gyfer adrannau Whitehall – codi’r gwastad i'r cyfraddau cyflog gorau sydd ar gael, yn ogystal â dyfarniad costau byw a gwelliannau o ran oriau gwaith a gwyliau blynyddol. Fodd bynnag, nid oedd ymateb wedi dod i law eto. 

 

Dywedodd yr undeb y byddai'n croesawu unrhyw sylwadau y gellid eu cyflwyno i weinidogion.

 

 

6. Cyllid Sector Diwylliant Cymreig

 

Adroddodd PCS ar y materion ariannu hirdymor a oedd yn effeithio ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a oedd wedi gwaethygu oherwydd y pandemig ac a achosodd i’r ddau sefydliad gychwyn, erbyn dechrau 2021, ar ymarferion ailstrwythuro eang, gan olygu diswyddiadau gorfodol yn ôl pob tebyg, ac ni chafwyd codiad cyflog i staff ar gyfer 2020/21. Yn bennaf oherwydd ymgyrchu a lobïo gan PCS a’n cyd-undebau, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn achub ariannol ar 3 Chwefror er mwyn osgoi colli swyddi a thoriadau niweidiol eraill, ond darparwyd yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn gyfredol (bryd hynny) a’r flwyddyn ariannol nesaf yn unig ac roedd angen i’r cyllid ychwanegol hwn gael ei wreiddio yn awr yng nghymorth grant y sefydliadau er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd yn y tymor hir i atal problemau tebyg rhag codi dro ar ôl tro yn y dyfodol.

 

Cytunodd Heledd Fychan, gan dynnu ar ei phrofiad yn y sector a’i rôl fel llefarydd Plaid ar Ddiwylliant, fod angen sefydlogrwydd ar y sector. Roedd hi i fod i gwrdd â'r Dirprwy Weinidog newydd a byddai'n pwyso'r achos dros gyllidebau tair blynedd.

 

 

7. Cynllun Ymadael Gwirfoddol Lywodraeth Cymru 2017

 

Roedd PCS yn ceisio datrys mater yn ymwneud ag Ymadael Gwirfoddol tua 140 o staff Llywodraeth Cymru yn 2017 o dan delerau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil 2016, a gafodd ei ddileu wedyn gan ddyfarniad o’r Uchel Lys, gan achosi i’r gwasanaeth sifil ddychwelyd i’r cynllun blaenorol, o 2010. Roedd y termau yn 2010 yn fwy hael na’r rhai a gyflwynwyd yn 2016 ac roedd Swyddfa’r Cabinet wedi cynghori adrannau y gallai fod angen iddynt wneud taliad ychwanegol i staff a oedd wedi gadael tra bod cynllun 2016 mewn grym. Gallai'r taliadau ymadael a wnaed gael eu hystyried yn gyfreithlon o hyd, fodd bynnag, pe bai adrannau'n credu y byddent wedi talu'r un swm hyd yn oed pe bai Cynllun 2010 wedi bod yn ei le. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r dull hwn ac wedi gwrthod cynnig taliad ychwanegol, ac eto roedd y telerau a gynigiodd i’r staff a adawodd yn dilyn y tariff safonol a gyflwynwyd yn 2016, felly mae PCS yn credu y byddai Llywodraeth Cymru wedi talu mwy o dan gynllun 2010 ac felly bod dyletswydd arno i wneud yn iawn am y gwahaniaeth. 

 

Roedd yr undeb wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ar 1 Medi 2020 i gyflwyno ei safbwynt ond roedd yn dal i aros am ymateb o sylwedd naw mis yn ddiweddarach, ac roedd bellach yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru, er y byddai’n dal yn well ganddo beidio â gorfod mynd i’r llys.

 

 

8. Cynigion Datganoli ynghylch y Sector Cyfiawnder a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

 

Tynnodd PCS sylw at y ffaith bod gweinidogion Cymru bellach wedi ymrwymo i geisio datganoli mwy o bwerau i Gymru, gan gynnwys dros Gyfiawnder a Phlismona a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y mae gan yr undeb aelodau yn y ddau faes. Er bod yr undeb wedi tueddu i ffafrio mwy o ddatganoli mewn egwyddor, nid oedd ganddo bolisi ar hyn o bryd mewn perthynas â’r meysydd penodol hyn. Roedd felly'n ceisio cynnal trafodaethau gyda gweinidogion a swyddogion cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn helpu i ailsefydlu Grŵp Trawsbleidiol yr Undebau Cyfiawnder, a oedd wedi gweithredu mewn sesiynau cynharach o'r Cynulliad/Senedd.  Byddai PCS yn hysbysu ei Grŵp Trawsbleidiol ei hun am ddatblygiadau.

 

 

9. Unrhyw Fater Arall

 

Rhoddodd PCS adroddiadau llafar byr ar ddau fater arall a oedd wedi codi’n ddiweddar:

 

(a)    Yr ansicrwydd sy’n wynebu staff o fewn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fyddai’n cael ei uno â’r Comisiwn newydd arfaethedig o ganlyniad i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru);

(b)    Y datgeliad bod Chwaraeon Cymru yn ystyried cynnig i roi gwaith rheoli ei safle ym Mhlas Menai ym Mangor ar gontract allanol, a fyddai’n effeithio ar y llu o aelodau PCS sydd wedi’u lleoli yno, ac wedi methu ag ymgynghori na hyd yn oed hysbysu’r undeb.

 

Roedd yr undeb yn ceisio codi'r ddau fater gyda gweinidogion a swyddogion a byddai'n adrodd yn ôl fel y bo'n briodol.